Psalms 128

Y fendith o fod yn ufudd i'r Arglwydd

Cân yr orymdaith.

1Mae'r un sy'n parchu'r Arglwydd
ac yn gwneud beth mae e eisiau,
wedi ei fendithio'n fawr.
2Byddi'n bwyta beth fuost ti'n
gweithio mor galed i'w dyfu.
Byddi'n cael dy fendithio, a byddi'n llwyddo!
3Bydd dy wraig fel gwinwydden ffrwythlon yn dy dŷ.
Bydd dy feibion o gwmpas dy fwrdd
fel blagur ar goeden olewydd.
4Dyna i ti sut mae'r dyn sy'n parchu'r Arglwydd
yn cael ei fendithio!
5Boed i'r Arglwydd dy fendithio di o Seion!
Cei weld Jerwsalem yn llwyddo
am weddill dy fywyd,
6A byddi'n cael byw i weld dy wyrion.
Heddwch i Israel!
Copyright information for CYM